Anrhydedd a roddir am deilyngdod gan wlad, teulu brenhinol, llu milwrol, eglwys, neu sefydliad arall yw urdd. Urddau mynachaidd a marchogol yr Oesoedd Canol oedd sail yr urddau modern. Yn ystod y Dadeni, dechreuodd brenhinoedd Ewrop sefydlu urddau sifil i anrhydeddu deiliaid bonheddig. Mae'n debyg taw'r Légion d'honneur Ffrengig, a sefydlwyd gan Napoleon ym 1802, oedd yr urdd teilyngdod gyntaf i wobrwyo dinasyddion o bob haen cymdeithas. Lledodd yr arfer hon ar draws gwledydd Ewrop yn y 19g, weithiau gan fabwysiadu'r hen eirfa a thraddodiadau o hanes y wlad, e.e. Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, sy'n parháu i urddo ddynion yn farchogion. Yn oes y genedl-wladwriaeth, mae'r mwyafrif o lywodraethau yn defnyddio urddau cenedlaethol i gydnabod ac anrhydeddu dinasyddion ac weithiau tramorwyr.